Senedd Cymru | Welsh Parliament
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | Local Government and Housing Committee
Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) | Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill
Ymateb gan: Comisiynydd Plant Cymru | Evidence from: Children's Commissioner for Wales,
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Rwy’n falch o weld bod Asesiad Effaith Integredig (IIA) llawn, sy’n cynnwys hawliau plant, wedi’i gynnal ynghyd â’r ymgysylltu uniongyrchol â phlant a phobl ifanc. Nodaf fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu prosiect ymchwil penodol i amlygu bylchau o ran tystiolaeth gan blant sydd â phrofiad o ddigartrefedd; mae fy swyddfa wedi derbyn gwybodaeth am gynnydd y gwaith hwn a bydd hynny’n parhau.
Rwy’n croesawu newid y diffiniad o ‘o dan fygythiad o ddigartrefedd’, ymestyn y cyfnod atal o 56 diwrnod i chwe mis a chyflwyno Cynlluniau Atal, Cefnogaeth a Llety (PSAP).
Roedd fy adroddiad diweddar ar effaith tai a digartrefedd ar blant a phobl ifanc, oedd yn canolbwyntio ar leisiau plant dan 16 oed, yn cynnwys casgliad o chwe argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Rwy’n croesawu’r ymrwymiad i ymgysylltu’n barhaus â phobl sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd. Mae digartrefedd a dyrannu tai cymdeithasol yn effeithio ar nifer o hawliau plant gan gynnwys:
• Erthygl 12: mae gan blentyn sy’n gallu ffurfio’i farn ei hun hawl i leisio’r farn honno’n ddirwystr ar bob mater sy’n effeithio ar y plentyn
• Erthygl 16: ni chaniateir i unrhyw blentyn orfod dioddef ymyrraeth fympwyol neu anghyfreithlon â’i breifatrwydd, â’i deulu, â’i gartref na’i ohebiaeth, nac ymosodiadau anghyfreithlon ar ei anrhydedd a’i enw da
• Erthygl 27: hawl pob plentyn i gael safon byw sy’n ddigonol ar gyfer datblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol y plentyn.
• Erthygl 31: hawl y plentyn i orffwys a chael hamdden, i chwarae ac ymroi i weithgareddau hamdden sy’n briodol i oedran y plentyn ac i gymryd rhan yn ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau
Rwyf am alw unwaith eto, fel y gwnes i yn fy ymateb i’r Papur Gwyn, am i’r ddeddfwriaeth roi amlinelliad clir o sut bydd yr ymgysylltu hwn â phlant a phobl ifanc yn edrych, a nodi bod rhaid i hynny gynnwys casglu data ynghylch ffactorau megis oedran, rhywedd, ethnigrwydd ac awdurdod lleol er mwyn dod i ddeall yr anghenion gwahanol yn well.
Mae Pennod 4 o’r Memorandwm Esboniadol yn dweud, ‘Bwriadwn ddiwygio Gorchymyn Addasrwydd 2015 er mwyn sicrhau nad yw llety heb gymorth yn addas i bobl ifanc 16-17 oed, ond byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol mewn perthynas ag amseriad y newid hwn, er mwyn cydnabod y problemau o ran cyflenwad a fydd yn llesteirio’r broses o’i roi ar waith.’ Byddwn i’n croesawu cyfle i gyfrannu at y broses hon wrth iddi ddatblygu.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Rwy’n croesawu i gryn raddau ddiddymu’r angen blaenoriaethol, gan y dylai unrhyw rai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref fod â hawl i gael tai sicr a diogel, ac mae’r gwelliant hwn yn cefnogi uchelgais polisi Llywodraeth Cymru, sef bod digartrefedd yn beth prin, sy’n digwydd am gyfnod byr, na fydd yn cael ei ailadrodd.
Fodd bynnag, gyda bod blaenoriaeth wedi cael ei gwarantu yn flaenorol i’r rhai oedd yn gadael gofal, a’u bod yn parhau yn agored i niwed ac yn wynebu mwy o berygl, rwy’n pryderu y gallai’r trefniadau newydd rwystro gallu awdurdod lleol i gael hyd i lety addas i’r garfan hon.
Rwy’n croesawu cyflwyno ‘ffafriaeth resymol’ i’r rhai sy’n gadael gofal wrth ystyried rhoi tai cymdeithasol ond mae’n bwysig nodi na fydd hynny’n cymryd lle’r meini prawf angen blaenoriaethol. Mae angen pennu dyletswyddau cadarn er mwyn sicrhau bod nod ehangach y Bil, sef galluogi’r rhai sy’n gadael gofal i osgoi dod yn ddigartref, yn cael ei gynnal.
Yn ogystal, rhaid ystyried hyfywedd ‘ffafriaeth resymol’ yng nghyd-destun yr argyfwng tai a’r angen mawr am fwy o dai digonol.
Mae Adran 23 ‘yn cyflwyno dyletswydd ar bob awdurdod lleol i sicrhau bod llety addas ar gael i bobl ifanc 18-21 oed sy’n gadael gofal. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rhesymol i sicrhau bod llety ar gael os yw hynny’n ofynnol i lesiant y bobl ifanc.
Mae’r geiriau ‘os yw hynny’n ofynnol i lesiant y bobl ifanc’ yn destun pryder. Ochr yn ochr â dileu’r angen blaenoriaethol, gallai pobl ifanc â phrofiad o ofal deimlo angen neu bwysau i brofi bod eu llesiant ‘yn ddigon drwg’ iddynt gael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer llety addas.
Rwy’n falch o weld protocol gorfodol ar gyfer ymdrin ag achosion y rhai sy’n gadael gofal o dan Adran 24 a bod pennod 3 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi, ‘Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir mai’r brif asiantaeth fydd gwasanaethau cymdeithasol i blant. Fodd bynnag, yr effaith fwriadedig yw y bydd protocolau ar y cyd yn galluogi partneriaid i ddeall eu rolau a chydweithio’n fwy effeithiol, a fydd yn arwain at fwy o dryloywder a gwell canlyniadau i bobl ifanc. Mae hyn yn gymwys ni waeth pa wasanaeth y bydd person ifanc yn mynd ato yn gyntaf.’
Petai gofyn bod awdurdodau tai lleol yn pennu trefniadau i gydweithio â chyrff perthnasol er mwyn rhoi sylw i anghenion llety a chymorth y rhai sy’n gadael gofal, byddai hynny’n golygu bod y rhai sy’n gadael gofal yn osgoi’r system ddigartrefedd i bob pwrpas ac yn osgoi profiadau negyddol pellach o systemau a chyrff cyhoeddus.
Rwy’n croesawu cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal sydd angen cymorth o dan Adran 25 o’r Bil. Yn fy ymateb i’r papur gwyn ar ddileu digartrefedd, tynnais sylw at waith achos a gyrhaeddodd fy swyddfa mewn perthynas â phobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n gorfod ymgyflwyno’n ddigartref wrth adael gofal er mwyn cael llety. Rwy’n falch o weld bod y grŵp hwn o bobl ifanc bellach yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer cymorth estynedig ac felly’n gallu osgoi’r system ddigartrefedd.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Rwy’n croesawu’r gwelliant i Ddeddf Tai 1996 o dan adran 37 er mwyn rhoi ffafriaeth mewn cynlluniau dyrannu tai cymdeithasol i bobl ifanc y mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd tuag atynt o dan Adran 108A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd gofyn bod awdurdodau tai lleol yn ffafrio’r rhai sy’n gadael gofal yn eu cynlluniau dyrannu yn helpu’r rhai sy’n gadael gofal i osgoi cael eu gwthio i mewn i’r system ddigartrefedd. Fodd bynnag, ni fydd modd cyflwyno’r diwygiad arfaethedig hwn heb gyllid ychwanegol i gyd-fynd ag ef.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Amherthnasol
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Amherthnasol
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Amherthnasol
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Er bod y gwelliant i’r gofynion cysylltiad lleol wedi’i integreiddio bellach â’r ddyletswydd digartrefedd graidd, sy’n eiriol dros gymhwysedd ehangach ac yn cefnogi nod ehangach y Bil, sef canolbwyntio ar atal digartrefedd, rwy’n pryderu am ganlyniadau anfwriadol posibl adleoli nad yw’n ddewisol i’r rhai sy’n gadael gofal ac i blant digwmni sy’n ceisio lloches.
Fy mhryder yw bod y gwelliant bellach yn nodi y bernir bod gan y rhai sy’n gadael gofal gysylltiad lleol ag unrhyw awdurdod lle buont yn derbyn gofal, yn cael eu lletya neu eu maethu.
Yn yr un modd, bydd pobl ifanc LHDTC+ yn aml yn chwilio am rwydweithiau cymorth, yn enwedig pan fyddant yn wynebu perygl o ymddieithriad neu gamdriniaeth oherwydd penderfyniad eu teulu i’w gwrthod. Yn nodweddiadol, mae’r rhwydweithiau hyn i’w canfod mewn dinasoedd, sy’n aml yn bell o’r man lle magwyd y bobl ifanc hyn. Gallai hynny effeithio ar eu ‘cysylltiad lleol’ ag awdurdod lleol.
Rwy’n pryderu y gallai peidio â rhoi sylw dyledus i ddiogelu lles y ddau grŵp hwn olygu eu bod yn cael eu gorfodi i ddychwelyd i ‘ardal mae ganddynt gysylltiad â hi’ lle byddant yn agored i niwed.
Mae’n bwysig ystyried yr argyfwng tai ehangach a diffyg tai addas fel rhwystr sylweddol. Felly, rwy’n falch o weld y Memorandwm esboniadol yn dweud bod, ‘Llywodraeth Cymru yn cydnabod na all awdurdodau lleol helpu unigolion sy’n ddigartref os nad oes cyflenwad cadarn o dai sy’n diwallu amrywiaeth o anghenion (…) bydd y Bil yn darparu y bydd diddymu’r prawf angen blaenoriaethol yn cychwyn ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.’
Nid yw’r Bil yn sôn o gwbl am blant sy’n ffoaduriaid a phlant sy’n ceisio lloches. Mae hyn yn groes i nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Cenedl Noddfa, ac mae’r ail yn nodi mai cam gweithredu cyntaf Llywodraeth Cymru fydd ‘sicrhau bod ffoaduriaid yn cael eu cynorthwyo i drosglwyddo o lety lloches i lety cynaliadwy.’
Fel rhan o’m hadroddiad ar brofiadau plant o dai a digartrefedd, rwyf wedi cyflwyno argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil gyda phlant sy’n ffoaduriaid a phlant sy’n ceisio lloches a’u teuluoedd i gael gwybod pa mor ddigonol yw’r ddarpariaeth tai/llety ac a yw’r cymorth a gynigir yn bodloni anghenion a hawliau plant.
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Amherthnasol
(Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb i tua 500 o eiriau).
Mae Pennod 4 o’r Memorandwm Esboniadol yn manylu ar y penderfyniad i beidio â chynnwys dyletswydd newydd i ysgolion, ‘(...) a byddwn yn gweithio gydag ysgolion, undebau a chydweithwyr ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau presennol i gyflawni ein nodau polisi, gan gynnwys gwaith fel rhan o’r adolygiad arfaethedig o’r canllawiau “Cadw dysgwyr yn ddiogel”. Rwy’n deall mai asesiad o’r effaith ar lwythi gwaith oedd wrth wraidd y penderfyniad hwn, ond rwy’n siomedig nad yw’r penderfyniad wedi rhoi digon o sylw i rôl allweddol ysgolion wrth adnabod digartrefedd ac anghenion tai.
Hefyd, mae’n bwysig nodi rôl bosibl gwaith ieuenctid wrth fynd i’r afael â materion tai a digartrefedd. Mae gweithwyr ieuenctid yn aml yn gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda dysgwyr, gan gynnig cefnogaeth emosiynol iddynt, ac ymyrryd yn gynnar trwy nodi arwyddion problemau cysylltiedig â thai a/neu digartrefedd.
Mae pwysigrwydd cydweithio yn ymwneud ag Adran 95 a dyletswydd trefniadau cydweithio awdurdodau lleol, sy’n gofyn bod awdurdodau lleol yn hyrwyddo cydweithio rhwng eu swyddogaethau tai a gwasanaethau cymdeithasol. Rwy’n croesawu’r trefniadau i’r ddyletswydd hon gynnwys y rhai sy’n gadael gofal, pobl ifanc 16 neu 17 oed, a phobl ifanc sy’n gadael cyfleusterau cadw.
Roedd effaith tai annigonol a llety dros dro ar addysg yn un o themâu fy adroddiad ar effaith tai a digartrefedd ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys ein hargymhelliad, ‘Dylai Awdurdodau Lleol gynnal trafodaethau amlasiantaeth neu amladrannol wrth roi teuluoedd mewn llety dros dro, i sicrhau bod hawliau ac anghenion y plant, gan gynnwys mynediad at iechyd ac addysg, yn cael eu hystyried ac yn derbyn sylw priodol mewn Cynlluniau Tai Personol. Byddai fframwaith ‘Y Ffordd Gywir’ gan fy swyddfa o gymorth i ddatblygu cynlluniau sy'n gweithio i gynnal hawliau plant mewn gwasanaethau cyhoeddus.’